Dywedodd Helgard Krause fod y Cyngor Llyfrau yn ddiolchgar am “nifer o brosiectau ysbrydoledig y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cefnogi yn y blynyddoedd diwethaf”.
Yn eu plith, meddai, mae Ysgolion Caru Darllen, Iechyd Da, Rhyngom, Darllen yn Well a’r Gronfa Cynulleidfaoedd Newydd.
Ond “mae angen sicrwydd cyllid ar y llinell sylfaen er mwyn cynllunio a buddsoddi mewn prosiectau, sgiliau a thalent newydd”.
“Nid yw cyllid prosiect blynyddol un-tro gydag amseroedd gweithredu cyflym, yn mynd i’r afael â’r heriau hyn mewn unrhyw ffordd ystyrlon ac, yn y cyd-destun penodol hwn, gellir ei ddisgrifio fel plaster yn unig.
“Gellid dadlau ei fod yn gwaethygu’r sefyllfa drwy agor y drws i’r dalent newydd y mae mawr eu hangen, ac eto, nid oes gennym yr adnoddau yn eu lle i roi cymorth parhaus iddynt yn ogystal â pharhau i gefnogi’r busnesau sy’n darparu’r cynnyrch craidd.
“Mae’n anochel y bydd hyn yn arwain at benderfyniadau anodd a siomedigaethau wrth i gystadleuaeth gynyddu am yr arian cyfyngedig sydd ar gael.”
“Mae’n anochel y byddwn yn cefnogi llai o lyfrau Cymraeg, a thra bod y cylchgronau Cymraeg wedi eu harbed rhag toriad yn y flwyddyn ariannol hon, diolch i £100,000 grant un-tro gan Lywodraeth Cymru, bydd yn rhaid canfod arbediad o 10.5% ar gyfer Ebrill 2025.”