Wrth ymateb i’r sefyllfa ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, ac aelod Ynys Môn yn y Senedd, Rhun ap Iorwerth fod “angen sicrwydd” am ddyfodol hirdymor y porthladd.
“Mae angen i lywodraethau weithio gyda’i gilydd rŵan er mwyn symud tuag at agor y porthladd mor fuan â phosib, ond hefyd i sicrhau gwytnwch ar gyfer yr hirdymor er mwyn ymateb yn well i stormydd, dwi’n ofni, y byddwn ni’n eu profi yn fwy a mwy aml,” meddai.
“Mae’n fy mhoeni i’n fawr, a ma’ ‘na atebion ‘da ni angen ar sawl haen ar hyn o bryd.
“Ma’ ‘na atebion hirdymor ond ma’ ‘na atebion byrdymor hefyd, a ma’ cael y sicrwydd yna ynglŷn â be’ yn union fydd yr amserlen wrth i ni symud i mewn i’r wythnosau nesaf yn bwysig iawn.
“Ma’ ‘na gwestiynau hefyd ynglŷn â be’ sy’n cael ei wneud yn y byrdymor er mwyn cefnogi tref Caergybi a busnesau sydd â chysylltiad hefo’r porthladd…
“Dwi’n sicr wedi clywed sïon yn lleol sy’n ofni y gallai fod yn fisoedd [cyn i’r safle ailagor].”