Pryder pellach sy’n cael ei nodi yn yr adroddiad yw bod rhai athrawon CGM yn symud o Gymru i Loegr am eu bod yn rhwystredig bod y maes wedi ei wthio i “ymylon cwricwlwm cymysg y Dyniaethau” yng Nghymru.
Mae rhai athrawon Addysg Grefyddol, o ganlyniad, yn dweud eu bod yn gorfod addysgu Hanes a Daearyddiaeth hefyd – pynciau “nad oeddent yn ddigon cymwys i’w haddysgu, ac yn teimlo ychydig iawn o frwdfrydedd drostynt”.
Cyfeirir hefyd y gallai rhai gael eu denu i Loegr wrth i fwrsarïau o hyd at £10,000 gael eu cynnig i’r rhai sy’n dymuno hyfforddi fel athrawon Addysg Grefyddol – does dim bwrsarïau o’r fath ar gael i athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru.
Mae methiant y llywodraeth i ddarparu gweledigaeth drefnus a chydlynol ar gyfer CGM wedi arwain at athrawon yn cael trafferth dehongli a gweithredu’r cwricwlwm yn effeithiol, ychwanega’r adroddiad.
“Mae’r diffyg eglurder hwn yn arwain at ddehongliadau amrywiol a chyferbyniol, sydd â’r potensial i arwain at wahaniaethau yn ansawdd a chynnwys y pwnc ar draws ysgolion yng Nghymru.”
Ofnir bod y diffyg eglurder yn amharu ar wybodaeth disgyblion sy’n sefyll TGAU Astudiaethau Crefyddol.