Mae Lauren Price wedi sôn yn y gorffennol ei bod wedi cael plentyndod anodd, gyda’i ddau riant yn byw gydag alcoholiaeth, ac o ganlyniad cafodd hi ei magu gan ei nain a’i thaid.
Ond er yr heriau hyn fe ragorodd Lauren gyda’r timau iau ac fe aeth ‘mlaen i chwarae dros y tîm hŷn.
Chwaraeodd Lauren ddwywaith dros brif dîm rhyngwladol Cymru yn 2012-13, tra roedd hi’n chwarae dros Glwb Dinas Gaerdydd.
“Roedd hi’n esiampl, o ran hyfforddi, ffitrwydd a disgyblaeth”, meddai Kath.
“Falle roedd ‘na chwaraewyr yn well na hi yn dechnegol, ond doedd ‘na neb yn well o ran ymroddiad – hyfforddi’n galed, bwyta’n iawn a cymryd ice-baths ac ati.”
Roedd Lauren yn paffio yr un pryd â’i gyrfa pêl-droed.
“Dydy bywyd fel bocsiwr ddim yn hudolus fel mae pobl yn ei feddwl. Ma’ fe’n fywyd ynysig – ry’ chi’n hyfforddi ben eich hun, mynd drwy’r un rwtîn dro ar ôl tro, ac mae hynny’n cymryd disgyblaeth arbennig.”














































