Wrth feddwl am y cyfarfod hwnnw dywedodd Mr Morgan:
“Mi oedd yn emosiynol i ddweud y gwir. O’n i’n teimlo mor ddiolchgar am y ffaith bod pobl wedi wedi bod yn pleidleisio drosta’ i am gymaint o flynyddoedd. O’n i’n ddiolchgar am yr holl gyfeillgarwch sydd yng Nghyngor Powys.”
Yn ei gyfnod fel cynghorydd, fe fu’n ddeiliad nifer o swyddi gwahanol gan gynnwys bod yn Gadeirydd y Cyngor rhwng 1999 a 2000. Roedd hefyd yn Aelod o Fwrdd y Celfyddydau a Diwylliant tan 2008, a hynny ers ei sefydlu yn 2002.
Yn y cyfarfod olaf hwnnw i’r Cynghorydd Morgan, dywedodd cyn-Gadeirydd y cyngor, y Cynghorydd Jonathan Wilkinson:
“Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gwaith rydych chi wedi’i wneud yma yng Nghyngor Sir Powys dros gyfnod hir o amser – rydych chi wedi rhoi gwasanaeth anhygoel.”
Ar dderbyn rhodd gan y Cyngor yn y cyfarfod, dywedodd yn Mr Morgan:
“Mae awyrgylch wych yn y siambr hon, gwnewch eich gorau i’w chadw. Mae gennym ni i gyd wahaniaethau – gallwn ddadlau yn y siambr ond pan fyddwn yn ei gadael, rhaid i ni anghofio’r gwahaniaethau hynny a rhaid i ni fod yn ffrindiau.
“Dyma’r ffordd rydym yn cyflawni polisïau ac yn cael yr effaith fwyaf buddiol ar y bobl rydym yn eu cynrychioli.”