Mae Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth neu luniau all helpu’r ymchwiliad i’r achos.
Mae’r llu, medd y Ditectif Arolygydd Tim Evans, “yn ddiolchgar iawn” i bawb sydd wedi cysylltu â nhw eisoes, ac yn apelio am unrhyw luniau CCTV neu dashcam yn dangos Volkswagen Golf gwyn yn teithio yn ardaloedd Biwmares, Llanfairpwll, Porthaethwy a Bangor Uchaf rhwng 19:30 a 20:30 nos Fawrth.
Ychwanegodd ei fod yn meddwl yn bennaf “am y tri pherson ifanc sy’n dal yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad yma, a hoffwn ddiolch i’r bobl hynny a roddodd gymorth i’r cleifion”.
Mae hefyd yn “canmol gwaith yr holl wasanaethau brys mewn ymateb i’r digwyddiad yma, y tîm ymchwilio sydd wedi gweithio’n ddiflino, ac ein swyddogion arbenigol sy’n parhau i roi cymorth” i deuluoedd y dioddefwyr.














































