Pedair oed oedd Ryan Rush pan ddatblygodd foelni am y tro cyntaf yn ei wallt, ac fe ddatblygodd y cyflwr nes ei fod yn 10.
Yn ôl Ryan, sy’n 22 ac yn byw yng Nghaerffili, roedd colli ei aeliau yn waeth “oherwydd mae’n haws i’w weld ac yn anoddach i’w guddio”.
Roedd yn destun ambell sylw negyddol yn yr ysgol uwchradd.
“Bwlio geiriol oedd e yn bennaf, ond yn gyffredinol, doedd e ddim yn rhy ddrwg. Rwy’n meddwl bod wnelo’r sylw fwy â chwilfrydedd.”
Ni ddaeth ar draws unrhyw un arall ag alopesia nes iddo fynd ar wyliau yn ei arddegau, ond y llynedd fe welodd delwedd o fodel â’r cyflwr, Adam Rhazali, ar boster yng Nghaerdydd.
“Roedd yn syfrdanol, jest i weld rhywun fel fi mor amlwg,” meddai.
“‘Naeth e wneud i mi deimlo’n falch, hyderus a mwy cyfforddus.”