Dywedodd Angharad Pearce bod gwneud y gadair ar gyfer Eisteddfod Dur a Môr wedi “gwireddu breuddwyd”.
Yn wreiddiol o’r Bala, mae Angharad wedi byw yn ardal Brynaman ers 20 mlynedd, ac mae hi wedi bod yn gweithio gyda dur ers 30 mlynedd.
“Mae’n rhywbeth sydd wedi bod ar fy wishlist ers blynyddoedd,” meddai.
Mae’r gadair wedi cael ei hysbrydoli gan weithfeydd a’r diwydiant dur lleol, ac mae’n cynnwys cyfuniad o ddur Cymreig a dur gwastad a gynhyrchwyd ym Mhort Talbot.
Ychwanegodd Angharad: “Dwi’n ffodus i gael y darn olaf o’r dur Cymreig o weithfeydd Tata ar gyfer y gadair, a ro’n i’n benderfynol i greu cadair oedd yn teimlo’n bositif – oedd yn ddathliad yn hytrach na symbol trist am yr hyn a fu.”