Elin Undeg Williams o Fetws Gwerfil Goch, Sir Ddinbych, sydd wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr.
Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod dros 15 munud o hyd.
Y beirniaid eleni oedd Alun Saunders a Heiddwen Tomos.
Bydd Elin yn cael cyfle i dreulio amser yng nghwmni’r Theatr Genedlaethol a derbyn hyfforddiant pellach gyda’r BBC.
Eleni mae’n hanner can mlynedd ers i’r Fedal Ddrama gael ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd, a hynny yn Llanelli yn 1975.