Wrth ymateb i araith Ms Morgan, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS fod yr araith yn “anobeithiol” ac “ni fydd yn apelio at bobl Cymru”.
“O frad gweithwyr dur a phensiynwyr i’r diwygiadau lles creulon, mae Eluned Morgan wedi bod yn cefnogi Keir Starmer. Rhoddodd hyd yn oed yr enw ‘y bartneriaeth mewn grym’ ar eu perthynas,” meddai.
“Nid yw hyn yn ddim mwy nag ymarfer o ail-frandio sinigaidd, mwy o jargon a rhethreg gwag gan Brif Weinidog a phlaid Lafur sy’n methu ac yn amharod i sefyll dros fuddiannau Cymru.”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi disgrifio’r araith fel “ymgais olaf i achub y sefyllfa”.
Mae Reform yn dweud bod ganddyn nhw’r Blaid Lafur o fewn eu golwg yn dilyn etholiadau lleol yn Lloegr yr wythnos diwethaf.
Dywedodd Ms Morgan yn ei haraith fod Reform yn blaid sy’n “creu ac yn manteisio ar raniadau”.
Wrth siarad ar raglen World at One ar BBC Radio 4, dywedodd: “Ry’n ni’n gweld Reform fel bygythiad, ond mae bygythiad hefyd o’r adain chwith yn rhannu a chaniatáu i Reform ddod drwyddo.
“Rwyf heddiw wedi amlinellu symud Llafur Cymru yn bellach i’r chwith o Lafur y DU.
“Rwy’n deall eu bod nhw wedi gwneud penderfyniadau anodd wedi 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol, ond fe allan nhw wneud dewisiadau gwahanol.”