“Hoffwn i feddwl mod i’n rhan o’r traddodiad radical Cymreig honno, sy’n dod o Rhodri Morgan, lle’r y’n ni’n edrych am rywun radical ond mewn gwirionedd mewn sefyllfa lle nad y’ch chi’n perthyn i unrhyw garfan benodol.
“Dyna ‘dw i’n gallu ei gynnig – ond yn fwy na hynny, galla’ i a Huw gynnig profiad sylweddol er mwyn gweithredu ar y pethau sy’n bwysig i bobl.”
Mae rhai, gan gynnwys y cyn-brif weinidog Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn bwysig fod menyw’n rhan o’r ras – does yr un fenyw erioed wedi arwain Llafur Cymru.
Dywedodd Ms Morgan fod hynny’n “rhywbeth i bobl ei ystyried, ond hoffwn i feddwl bod mwy i’r peth ‘na hynny”.
“Mae e’ hefyd am y profiad sylweddol y galla’ i ei gynnig, gan gynnwys cysylltiadau â San Steffan fydd yn allweddol ar gyfer y dyfodol.”