Wel mae’r antur fawr ar ben i Gymru yn Euro 2025.
Doedd ‘na ddim stori dylwyth teg i fod ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi yn y grŵp anoddaf posibl gyda Lloegr, Ffrainc a’r Iseldiroedd – ac ar ôl colli’r tair gêm yn drwm maen nhw ar eu ffordd adref.
Ond does ‘na ddim cywilydd yn hynny. Doedd neb yn disgwyl iddyn nhw orffen yn y ddau safle uchaf a chyrraedd rownd yr wyth olaf.
Y gwir amdani yw bod cyrraedd un o’r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf erioed ynddo’i hun wedi bod yn dipyn o gamp.
Mae’r garfan yma wedi torri tir newydd, ac maen nhw’n saff o’u lle yn y llyfrau hanes am byth.
“Da ni wedi bod ar daith, ac mae’r daith wedi bod yn un emosiynol iawn,” meddai’r capten Angharad James.
“Dwi mor browd o’r merched. Mae gennym ni lot i’w weithio arno, ond ni mor falch o ba mor bell ‘da ni wedi dod fel grŵp.”