Glastonbury, 2024 – lle i ddechrau?
Dyma fy nhro cyntaf i yn yr ŵyl fyd-enwog yn fferm Worthy, ac mi oedd hi’n un o benwythnosau gorau fy mywyd.
Roedd cael gweld rhai o fandiau mwya’r byd, rhai o’r artistiaid newydd mwya’ cyffrous, a dawnsio tan oriau mân y bore i guriadau electronig lliwgar gyda ffrindiau yn rywbeth wna’ i fyth anghofio.
Ac roedd cael gweld gymaint o artistiaid o Gymru yn cynrychioli’r wlad yn brofiad swreal hefyd, a ges i sawl pinch me moment go iawn dros y penwythnos hir!