Ychwanegodd yr Athro Hopkin: “Y broblem ydy, mae gyda ni ddisgrifiad o’r hyn sydd wedi digwydd, ond ychydig iawn o esboniad sydd.
“Mae cwestiynau yn siŵr o godi nawr ynglŷn â safon addysg safon uwch yng Nghymru – yw e wedi gostwng mwy yng Nghymru na mewn rhannau eraill o’r DU?
“Ond problem arall i brifysgolion yw, hyd yn oed os oes mwy o fyfyrwyr o gartre’ yn dod fewn i Gymru, mae nifer y myfyrwyr tramor wedi gostwng – ac arnyn nhw maen nhw’n dibynnu fwyaf am arian.
“Dydi addysgu pobl leol ddim yn talu ei ffordd fel yr oedd hi gan fod ffioedd wedi rhewi, felly mae ‘na argyfwng deublyg yma.
“Dwi’n siŵr fydd pobl yn gofyn a oes ‘na gwestiynau mwy strwythurol i wneud efo gwleidyddiaeth addysg yng Nghymru, ac yn y pendraw, ceisiadau yw’r rhain, nid nifer y bobl sy’n dod mewn.”