Wrth siarad yn y Senedd yn dilyn y penderfyniad i dynnu bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020, dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd ar y pryd: “Maen nhw wedi ystyried y wybodaeth ychwanegol sydd wedi cael ei ddarparu, ac mae’r grŵp yna o bobl – prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru – wedi rhoi cyngor clir y dylai Betsi Cadwaladr symud allan o fesurau arbennig, a dyna sail fy mhenderfyniad.”