Daeth cannoedd o bobl i wylio a dyma ble blannwyd yr hedyn y gallai ras flynyddol o’r fath ddenu tyrfaoedd mwy, a dod yn rhan o galendr blynyddol yr ardal.
O hynny ymlaen roedd rasio yn cael ei drefnu pob blwyddyn ym Mangor Is-y-coed.
Roedd ariannu’r cyfan yn syml. Roedd y rasio’n cael ei dalu amdano drwy ddefnyddio tâl aelodaeth y rhai cyfoethog oedd yn aelodau o grŵp hela teulu’r Wynn.
Cafodd y cwrdd rasio cyntaf swyddogol ei gynnal yn 1859, ar y tir ble mae’r trac rasio’n parhau i fod heddiw.
Y brif ras ar y diwrnod hwnnw oedd ras ffos a pherth (steeplechase) y Grand Wynnstay dros bellter o dair milltir.
Roedd 12 ceffyl yn rhedeg, a’r enillydd oedd ceffyl Mr Jones, Charley, oedd yn cael ei reidio gan joci o’r enw Gaff.