Hoffodd Owain ddysgu mwy am drosbont Gabalfa yng Nghaerdydd a gafodd ei hagor ddechrau’r 1970au, meddai.
“Mi oedd ‘na bentref cyfan o lyfrgelloedd a sinema a siopau a strydoedd. Y peth dwi’n ei ffeindio fwyaf rhyfedd am hwnna ydi bellach bod lle oedd y pentref yna bellach yn awyr [oherwydd y cloddio ddigwyddodd wrth adeiladu’r ffordd].
“Dwi’n meddwl ei bod hi’n ysfa mae’r rhan fwyaf ohona ni’n ei hadnabod – pan ‘dan ni’n cerdded ar y topiau ac yn dod ar draws hen furddun, ac mae’r dychymyg yn tanio’n syth; yn meddwl pa deulu oedd yn byw yno, y straeon rownd y tân.
“Beth oedd yno ers talwm? Mae hi’n ysfa gyffredin i ni i gyd.”
Oes gennych chi atgofion o leoliad sydd bellach wedi diflannu? Mae Owain yn awyddus i glywed eich hanesion – owain.meredith@itv.com