“Dwi’n meddwl bod o’n bwysig bod fi’n rhoi rhywbeth lawr mewn llyfr – a bod pobl eraill yn cael dealltwriaeth o ba mor bwysig ydi mwynau be’ sydd ar ein stepan drws a bod yn ddiolchgar a mwynhau be’ sgeno ni yn barod,” meddai.
“Dwi’n teimlo yn y byd ‘da ni ynddi heddiw ‘ma efo’r cyfryngau cymdeithasol, mae bob dim yn instant ac yn sydyn. ‘Da ni’n rhoi like ar rwbath, mae o wedi mynd – a ‘da ni’n anghofio amdano fo.
“Ond efo llyfr fel hyn mae o yna i rywun jest tawelu, bod yn ddistaw, arafu, sbïo ar y llyfr, sbïo ar y lluniau… cael be’ maen nhw isho allan o’r lluniau a hefyd y geiriau wrth gwrs. Mae’n gyfuniad o’r ddau a gobeithio neith o helpu unigolion.”