Gan ei fod 30 stôn yn ysgafnach, roedd yn cael ei ystyried yn gymwys am drawsblaniad.
Roedd Eleri Pollard yn barod i wneud unrhyw beth i roi bywyd newydd iddo.
“Dwi isio i Ioan gael byw ei fywyd, mae o’n haeddu o.”
I Ioan, sydd bellach yn 35 oed, mae’n gobeithio ei fod yn ddechrau newydd.
“Lle mae rhywun yn dechrau diolch a dangos gwerthfawrogiad am rywbeth mor bwysig â rhoi fy mywyd yn ôl i mi?”
“Dwi ‘di bod drwy gymaint dwi jyst isio i hwn weithio heb unrhyw broblem,” meddai.
“Dwi’n meddwl bod o’n naturiol i boeni, poeni mwy am Mam na fi’n hun achos ma’ Mam yn rhoi ei hun mewn sefyllfa fregus o’i gwirfodd i drio gwella mywyd i.
“Mae o i gyd yn pwyso ar hwn.”