Wedi i’w goesau gael eu tynnu, roedd Hopper yn ôl yn ei waith mewn llai na chwe mis gyda choesau prosthetig, clywodd y llys.
Cafodd ei arestio ym Mawrth 2023, ac mae wedi cael ei wahardd o’r gofrestr feddygol ers Rhagfyr 2023.
Yn amddiffyn Hopper, dywedodd Andrew Langdon KC bod y troseddau wedi bod yn “sioc” i’w ffrindiau.
“Mae e wedi bod yn ymrwymedig i weithio er gwasanaeth i bobl eraill,” meddai.
“Mae’r saga yma yn anodd iawn deall.”
Dywedodd Mr Langdon fod Hopper wedi dioddef gyda dysphoria’r corff ers yn blentyn, ac nad oedd eisiau ei draed am eu bod yn “achosi anesmwythder” iddo.
Ychwanegodd nad yw Hopper yn edifar y llawdriniaethau, ond ei fod yn edifar yr “anonestrwydd” am eu hachos.
Dywedodd Mr Langdon, wedi’r llawdriniaethau, fod Hopper wedi cael cymaint o gefnogaeth gan ei deulu a’i ffrindiau, oedd wedi ei gwneud hi’n fwy anodd dweud wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd mewn gwirionedd.