Ag yntau wedi byw yn y gogledd ei holl fywyd, ei gariad tuag at ei gynefin sy’n ei yrru ‘mlaen, meddai:
“Dwi’n caru beth dwi’n ei wneud – mae’n rhoi teimlad o falchder i mi. Dydi o ddim jest am ffotograffiaeth, mae am ddangos pobl harddwch lle ‘dan ni’n byw.
“Dyma Gymru. Ac weithiau ti jest angen ongl wahanol i weld pa mor anhygoel ydi hi.”