Hei, Mistar Urdd, ty’d am dro ar hyd y ffyrdd!
Wel, mae mwy nag un Mistar Urdd ar hyd ffyrdd pentrefi ardal Maldwyn ar hyn o bryd, yn barod i groesawu plant a phobl ifanc Cymru i faes Eisteddfod yr Urdd 2024.
Dyma’r tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn ers 1988 a bydd wedi’i leoli ar gaeau Fferm Mathrafal, ger Meifod rhwng 27 Mai – 1 Mehefin 2024.
Mae Menter Iaith Maldwyn wedi bod yn cynnal gweithdai harddu i greu arwyddion o bob math, ac mae nifer o gymunedau, busnesau, ysgolion ac unigolion wedi mynd ati ar eu liwt eu hunain i addurno eu cartrefi, pentrefi, busnesau ac ysgolion.
Sawl Mistar Urdd welwch chi yn y lluniau hyn?