Cafodd Mr Legakis – ffotograffydd llawrydd sy’n rhedeg asiantaeth luniau Athena yn Abertawe – ei arestio tra’n tynnu lluniau tân a ddifrododd fwy na 20 o gerbydau mewn safle gwerthu ceir yn Abertawe ym mis Awst 2024.
Wrth amddiffyn Mr Legakis, dywedodd y bargyfreithiwr James Hartson fod ei gleient yn “ffotograffydd newyddiadurol llawrydd, uchel ei barch” a’i fod wedi colli gwaith yn dilyn yr euogfarn.
“Dyma’r eildro iddo gael ei lusgo i lys troseddol… hyd y gwela’ i, am ei fod wedi ‘ypsetio’ swyddog heddlu,” ychwanegodd Mr Hartson.
“Mae’n bryd i’r heddlu sylweddoli nad yw’n drosedd bod yn sarhaus neu’n anghwrtais … oherwydd mae’n ymddangos mai dyna’r prawf sy’n cael ei roi i Mr Legakis bob tro y mae’n cyrraedd lleoliad i wneud ei waith.
“Mae hyn yn mynd yn groes i hawliau dynol. Os nad yw’r heddlu’n cytuno ag ef, maen nhw’n ei gloi i fyny ac yn ei daflu i fan.”
Dywedodd y Barnwr Rees wrth y llys ei fod yn deall “angerdd” Mr Hartson, a gofynnodd pam nad oedd yr achos wedi’i adolygu’n gynt.
“Nid oes gennym lawer o ddewis arall heblaw caniatáu’r apêl,” meddai wrth Mr Legakis.
“Nid oes euogfarn yn eich erbyn mwyach.”













































