Cafodd y Goron, sy’n cynnwys diemwntau am y tro cyntaf erioed, ei chreu gan Nicola Palterman o Gastell-nedd.
Mae Nicola wedi gweithio yn y diwydiant gemwaith ers dros 30 mlynedd ac wedi sefydlu busnes yn ardal Castell-nedd yn ddiweddar.
“Roeddwn i eisiau i’r dyluniad fod yn seiliedig ar y thema dur a môr. Mae tonnau’r dirwedd arfordirol yn ardal Aberafan i’w gweld,” meddai.
“Mae’r dyluniad hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant dur, sydd wedi bod yn asgwrn cefn i bobl dros y blynyddoedd.”
Defnyddiodd Nicola hefyd ddeunydd o waith lleol Tata Steel i wneud y Goron.
“Mae’r defnydd yn gyfuniad trawiadol o’r arian ‘ifanc’, sgleiniog; tun wedi’i orchuddio â haen o ddur lleol o weithiau Tata; a melfed glas sy’n cynrychioli’r elfen forwrol ar y cap,” meddai.
Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru, er cof am Olwen Dafydd.