Yr actor Mark Lewis Jones fydd Llywydd yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.
Mae’n wreiddiol o bentref Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, ac fe gafodd ei fagu yn y pentref.
Mae’n cael ei adnabod am sawl rôl adnabyddus gan gynnwys actio mewn sioeau teledu eiconig fel The Crown, Game of Thrones, Chernobyl a Baby Reindeer.
Dywedodd ei fod “mor falch i gael y gwahoddiad i fod yn Llywydd”.
“Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl ac rwy’n hollol chuffed.”