Mae o’r farn fod ‘na “ddiffyg egni” a “diffyg cyfeiriad” yn perthyn i’r llywodraeth.
“‘Dan ni’n gobeithio ar ddechrau blwyddyn newydd i atgoffa’r prif weinidog, Eluned Morgan… fod angen gweithredu yn lawer mwy uchelgeisiol er mwyn cyrraedd y targed,” meddai Mr Rhys.
Dywedodd bod addysg yn un o’r sectorau lle nad oes gweithredu wedi digwydd, a bod y cynnydd yn y maes hwnnw wedi bod yn “druenus o isel” yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf.
“Pan osodwyd y targed yn y lle cyntaf roedd pobl yn llawn cyffro am y peth, yng Nghymru ac yn rhyngwladol,” meddai.
“Wrth i amser fynd yn ei flaen mae ‘na deimlad fod y llywodraeth yn gosod targed ac yn gwneud dim am y peth a dwi’n meddwl mae’n rhaid i ni obeithio bod pethau’n mynd i newid.”