Fel rhan o ddatganiad y Gwanwyn, fe gyhoeddodd y Canghellor sawl newid i’r system budd-daliadau.
Mae’r newidiadau yn cynnwys tynhau rheolau cymhwyster ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Bersonol – y prif fudd-dal anabledd – sy’n cael eu hawlio gan fwy na 250,000 o bobl yng Nghymru.
Wrth annerch ASau, dywedodd Ms Reeves “nad yw’n iawn diystyru cenhedlaeth gyfan sydd allan o waith ac sy’n camddefnyddio PIPs”.
Cadarnhaodd hefyd y bydd credyd cynhwysol cysylltiedig ag iechyd ar gyfer hawlwyr newydd, a oedd eisoes i’w haneru o fis Ebrill 2026 o dan becyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, bellach yn cael ei rewi ar lefel is newydd o £50 yr wythnos tan 2030.
Bydd taliadau cysylltiedig ag iechyd hefyd yn cael eu rhewi ar gyfer hawlwyr presennol.
Fe wnaeth asesiad gan yr adran Gwaith a Phensiynau ganfod y bydd 3.2m o deuluoedd ar draws Lloegr a Chymru ar eu colled o ganlyniad i’r newidiadau, gyda 250,000 yn fwy o bobl yn cael eu gwthio i dlodi.