Ar ôl cael ei ddatblygu am flynyddoedd, bydd yr CFfC yn disodli taliadau yr oedd ffermwyr yn arfer eu derbyn gan yr Undeb Ewropeaidd, ac a oedd yn cael eu talu’n bennaf ar sail faint o dir a oedd dan eu gofal.
Mae’r cynllun newydd yn gwobrwyo dulliau cynaliadwy o amaethu a “nwyddau cyhoeddus” fel rheoli cynefinoedd i fywyd gwyllt a chloi carbon yn y tir.
Roedd asesiad blaenorol wedi awgrymu y gallai’r CFfC arwain at 10.8% o gwymp mewn niferoedd da byw ar ffermydd Cymru, ac 11.4% o ostyngiad yn yr oriau gwaith oedd eu hangen.
Fe geisiodd yr undebau drosi hyn i golledion swyddi posib, gyda ffermwyr yn gosod 5,500 o esgidiau glaw gwag ar risiau’r Senedd.
Roedd y ddogfen ei hun yn rhybuddio yn erbyn dehongli’r ffigyrau fel hyn, ac na fyddai o reidrwydd yn golygu “gostyngiad go iawn” mewn swyddi.
Roedd y symiau wedi’u selio ar oriau gwaith arferol person mewn swydd llawn amser, tra byddai oriau gwaith ffermwr yn llawer hirach fel arfer.
Gallai hefyd fod cynnydd mewn tasgau nad oedden nhw’n draddodiadol wedi’u cysylltu ag amaeth ar ffermydd, fel rheoli coetiroedd.














































