Ar ôl y gêm dywedodd James Harris o Forgannwg wrth adran chwaraeon BBC Cymru: “Mae yna lawer o emosiynau, ni’n hapus iawn gyda’r ffordd wnaethon ni chwarae dros y pedwar diwrnod diwethaf ond yn siomedig iawn na lwyddon ni i gael y fuddugoliaeth, gan y byddai un wiced arall wedi golygu llawer.