Dywedodd Ms Medi bod angen rhoi dyddiau o rybudd i gwmnïau iddyn nhw allu arallgyfeirio eu lorïau mewn amser.
“Dyna pam ma’ cyfathrebu yn holl, holl bwysig ‘wan.
“Fydd ‘na lorïau yn gwneud eu ffordd tuag at Gaergybi cyn dydd Iau yn gobeithio fod nhw’n agor.
“Mae’n rhaid iddyn nhw roi rhai dyddiau o rybudd i’r cwmnïau fel bo’ nhw’n gallu arallgyfeirio eu siwrna fel bod nhw’n mynd y ffordd arall yn lle bod nhw’n dod am Ynys Môn a’n cael eu dal yma fel yn ystod y storm.”
Ychwanegodd yr AS bod trafodaethau am drydedd bont i’r ynys yn “allweddol bwysig” a bod angen ystyried “sut mae traffig yn dod fewn i’r porthladd”.
Mae’r cau yn cael “effaith bersonol ar bobl a’u teuluoedd” yn barod, meddai.
“Mae pethau angen mynd o’i le weithiau cyn i bobl sylweddoli gwerth rhywbeth.
“Dwi’n gobeithio, wrth symud ymlaen, bydd llywodraethau Cymru a’r DU yn gweld fod Porthladd Caergybi angen cefnogaeth.”