Mae prifathro 54 oed wedi ei gyhuddo o geisio anafu yn fwriadol yn dilyn digwyddiad mewn ysgol.
Roedd Dr Anthony Felton, sy’n cael ei adnabod fel John, wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ôl digwyddiad yn Ysgol Gatholig St Joseph’s yn Aberafan, Castell-nedd Port Talbot.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw yno am 09:50 fore Mercher.
Cafodd dyn 51 oed ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ond mae bellach wedi ei ryddhau gyda mân anafiadau.
Fe wnaeth Mr Felton ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener, gan siarad i gadarnhau ei enw a’i gyfeiriad.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ar 7 Ebrill.