Cafodd staff yr adran nyrsio wybod mewn e-bost fore Iau y byddai’r cynnig newydd yn golygu dysgu llai o israddedigion ond y byddai rhaglenni nyrsio oedolion, plant ac iechyd meddwl yn aros yn y brifysgol.
Dywedodd yr Athro Stephen Riley, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, yn yr e-bost: “Mae hyn yn newyddion da i’r cyhoedd, cleifion ac wrth gwrs gweithlu nyrsio’r dyfodol yng Nghymru.”
Dywedodd fod “cynllun amgen credadwy” wedi ei gyflwyno fel rhan o drafodaethau gyda staff, myfyrwyr, undebau, cyrff iechyd a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd yr e-bost: “Mae’r dewis arall yn cynnig y byddwn yn addysgu carfannau nyrsio israddedig llai nag ar hyn o bryd, gyda’r cyrsiau wedi’u hail-lunio i wella’r profiad addysgu i’n myfyrwyr yn sylweddol.
“Byddem yn parhau i gynnig rhaglenni nyrsio oedolion, plant ac iechyd meddwl i fyfyrwyr o Gymru a thu hwnt.”