Ro’n i’n cymryd rhan mewn theatr ieuenctid, gyda’r Port Talbot Amateur Operatics ac yna West Glamorgan Youth Theatre.
Dwi wastad wedi cael fy nenu at y rhannau cymeriad a’r rolau doniol. Ro’n i’n meddwl fod y rhannau leading man yn ddiflas – pwy sydd eisiau bod ar y llwyfan drwy’r holl sioe a chael y ferch ar y diwedd, pan alli di fynd mlaen am bum munud, cael pawb i chwerthin, bod yn seren, wedyn mynd nôl i ymlacio gefn llwyfan?!
‘Nes i hefyd MCio mewn digwyddiadau yn ystod yr ysgol gyfun.
Ond ddigwyddodd y peth mawr cyntaf yn ystod fy wythnos gyntaf yn y brifysgol; es i i fy sioe stand-yp byw cyntaf, lle’r oedd Chris Addison a Francesca Martinez wrthi. Ac o’r foment yna, o’n i jest yn gwybod, ro’n i eisiau bod yn gomedïwr.