Mae pump o bobl wedi bod ger bron llys mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes 40 oed mewn bloc o fflatiau yn Rhondda Cynon Taf ddydd Sul.
Cafodd Joanne Penney, 40, ei chanfod ag anafiadau difrifol mewn fflat yn Nhonysguboriau tua 18:10. Bu farw yn y fan a’r lle.
Mae pedwar o’r rhai – tri dyn ac un ddynes – a fu ger bron Llys Ynadon Caerdydd fore Sadwrn wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth.
Y pedwar oedd Marcus Huntley, 20 oed o Laneirwg, Caerdydd, Melissa Quailey-Dashper, 39 oed o Gaerlŷr, Joshua Gordon, 27 oed o Oadby, Sir Gaerlŷr a Tony Porter, 68, o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr – mae e hefyd wedi’i gyhuddo o fod â rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau wedi’u trefnu.
Mae Kistina Ginova, 21, o Oadby, Sir Gaerlŷr, wedi’i chyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd fore Sadwrn ei bod wedi’i chyhuddo o gael gwared ar dystiolaeth a oedd yn gysylltiedig â’r lofruddiaeth.
Cafodd cais mechnïaeth ar ei rhan ei wrthod.
Cafodd y pum diffynnydd eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos ger bron Llys y Goron Caerdydd ar 18 Mawrth.