2. Pan oedd hi’n iau, roedd hi’n chwarae i Gerddorfa Ieuenctid Cymru… a band pop
Y sielo oedd ei hofferyn ac aeth ar daith gyda Cherddorfa Ieuenctid De Morgannwg i Stuttgart – gefeilldref Caerdydd, lle’r oedd hi’n byw. Tydi hi ddim yn chwarae bellach ond yn breuddwydio am ail-afael ynddi ar ôl iddi ymddeol.
Roedd hi hefyd mewn band pop pan oedd hi yn yr ysgol, fel yr eglurodd wrth Cymru Fyw:
“Roedd tipyn o bawb mewn ‘grŵp pop’ yn y dyddiau hynny. Mae llun yn rhywle o Mari Emlyn, fy ffrind ysgol, a minnau’n dal tlws ‘record arian’ ar faes Eisteddfod yr Urdd – chofia’ i ddim yn union ymhle.
“Ond mae gen i gof fy mod i’n canu’r gitâr fas ar y sail ansicr fy mod i’n medru canu’r sielo (?!) ac rwy bron yn siŵr mai ‘Octopws’ oedd enw’r band. Aeth chwech ohonom ni wedyn o Ysgol Llanhari i greu grŵp, wedi ein hysbrydoli gan ‘Sidan’.
“Mae arna’ i ofn nad oeddem ni yn yr un gynghrair â’n harwresau – ac mae gen i gof o gyfweliad ar Sosban, rhaglen radio Richard Rees, a phawb yn siarad dros ei gilydd.”
Mae’n rhaid bod cerddoriaeth yn y gwaed: roedd ei mab Llewelyn yn y band Bromas ac eleni bu’n cystadlu yn Cân i Gymru gyda’r gân Mêl. Mae un o’i merched – Hanna – yn chwarae’r sielo… sef hen un Mererid.