Wrth edrych yn ôl dros gyn-gyfresi The Great British Menu mae Daniel yn cofio gwylio rhai o’r cyfresi cyntaf a oedd yn cynnwys y Cymro Bryn Williams, ac mae’n disgrifio ei ddylanwad arno.
“Dwi’n cofio gwylio’r sioe pan ‘nath o ddod allan pan oedd Bryn arno, ac mae Bryn Williams dal yn rhywun dwi’n sbïo fyny iddo rŵan a dwi’n gwybod pwy ydi o diolch i’r sioe,” meddai.
Tra’n ymddangos ar y sioe, roedd y dyddiau yn mynd yn hir iawn i Daniel wrth iddo ymarfer ei grefft ar ôl diwrnod llawn o weithio yn y Gunroom.
“Cyn i mi ddechrau ffilmio roedd ‘na lot o waith i greu’r stori, heblaw am y bwyd, roedd yn rhaid i mi ddewis y themâu iawn.
“Roedd ‘na lot o nosweithiau hir, gweithio trwy’r dydd yn y gegin a thrio pethau allan.
“‘Nath lot o bethau fynd yn wrong ond gobeithio fy mod wedi dewis y fwydlen iawn,” meddai.
Bydd enillydd yr ornest o gogyddion Cymru yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol i geisio hawlio’u lle i allu coginio ym Mhalas Blenheim.
Y tri arall fydd yn cystadlu o Gymru yw:
Ayesha Kalaji, Chef Patron a pherchennog, Queen of Cups.
Lewis Dwyer, Prif Gogydd, Hiraeth Kitchen.
Seb Smith, Prif Gogydd, Allt Yr Afon.
Os na allwch chi ddisgwyl tan y rhaglen heno, mae’r bennod ar gael nawr i’w gwylio ar BBC iPlayer.