Mae Rafik yn ennill teitl y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn ar gyfer wythawd diddorol o offerynnau.
Daeth 11 ymgais i law, gyda’r beirniaid Eilir Owen Griffiths a Carwyn Jones yn nodi fod “pob un ohonynt yn dangos addewid a rhinweddau da ym mhob darn.”
Meddai Rafik, oedd yn cystadlu gan y ffugenw Mustav Gahler: “Ysbrydoliaeth y darn yma oedd syllu ar olygfa wedi’i lygru gan olau ar noson ym mis Rhagfyr. Mae ffrwydradau egni’r darn yn cynrychioli yr hyn mae’r llygaid yn ei weld dan olau isel, sef arwyddocâd “scotopia.”
“Daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y darn yn rhannol o Harrison Birtwistle a Mahler, a gadarnheir gan fy ffugenw.”
Meddai’r beirniaid: “Mae’r enillydd yn deall sut i strwythuro darn yn effeithiol, dangos sensitifrwydd wrth ddatblygu syniadau ac wedi cymryd gofal dros bob agwedd o’r ysgrifennu.
“Roedd y daith gerddorol yn glir a’r sylw neilltuol i’r manylder yn dangos cyfansoddwr aeddfed dros ben.”
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Gerard Coutain o Rydaman (enillydd y llynedd), a Heledd Wynn Newton o Gaerdydd oedd yn drydydd.
Roedd y wobr ddydd Sadwrn yn rhoddedig gan gorau lleol yr ardal sef: Parti Llwchwr, Côr Meibion Clwb Rygbi Treforys, Côr Meibion Dyfnant, Côr Philharmonic Abertawe, Côr y Gweilch a Chôr Nedd.
Yn ogystal roedd yna £400 o gronfa Glynne Jones, Pendyrys i’r enillydd.