Wrth annerch y rali ar Sgwâr Buckley yn Llangefni, dywedodd Aelod Ynys Môn yn y Senedd, Rhun ap Iorwerth ei fod yn poeni’n fawr am y cynlluniau.
“Da ni’n bryderus iawn yma ar Ynys Môn ynglŷn â’r ecsploetio sydd yn cael ei gynllunio gan gwmnïau sy’n mynd i wneud elw o filiynau o bunnoedd oddi ar ddwyn ein tir amaethyddol ffrwythlon ni,” meddai arweinydd Plaid Cymru.
“Ma’ ffyrdd eraill mwy arloesol o gynhyrchu ynni solar – ar ein telerau ni yma ym Môn, mae enghraifft ddiweddar o ddefnyddio gorchudd solar ym maes parcio’r cyngor sir, er enghraifft.
“Mae gan ynni solar ran bwysig i’w chwarae yn ein hymdrech i ddatgarboneiddio, ond byddai prosiectau ar raddfa ddiwydiannol fel hyn ar dir cynhyrchiol yn cael effaith andwyol sylweddol ar gymunedau ac ar y sectorau amaethyddiaeth a thwristiaeth, tra’n cynnig ychydig iawn o gyfraniad economaidd a swyddi yn lleol.”