Does gan Ramsey ddim profiad fel rheolwr, ond mae rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi awgrymu y gallai weithio ar lefel uchel wedi i’w yrfa ddod i ben fel chwaraewr.
Ramsey fydd y trydydd dyn i arwain Caerdydd eleni.
Erol Bulut oedd wrth y llyw ar ddechrau’r tymor, ond cafodd ei ddiswyddo wedi chwe gêm.
Cafodd Riza ei wneud yn rheolwr dros dro i ddechrau, cyn derbyn cytundeb ym mis Rhagfyr tan ddiwedd y tymor.
Ond mae wedi dod dan bwysau cynyddol, gyda Chaerdydd yn wynebu posibilrwydd gwirioneddol o ddisgyn o’r Bencampwriaeth.
Wedi’r golled yn erbyn Sheffield United ddydd Gwener, Ramsey sydd nawr â’r dasg o geisio cadw Caerdydd yn y gynghrair.
Ef oedd chwaraewr ieuengaf Caerdydd erioed yn 2007, gan sicrhau ei le yn y tîm cyntaf ag yntau ond yn 16 oed.
Wedi cyfnodau parhaol gydag Arsenal, Juventus a Nice, fe ddychwelodd i Gaerdydd yn 2023, ond mae ei ddylanwad wedi cael ei gyfyngu gan anafiadau.
Ni fydd modd iddo chwarae rhan ar y cae yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, wedi iddo gael llawdriniaeth ar anaf i’w goes fis diwethaf.













































