Mae disgwyl i nam ar bibell ddŵr, sydd wedi gadael miloedd heb gyflenwad yn y gogledd, gael ei drwsio ddydd Gwener.
Ond mae Dŵr Cymru wedi rhybuddio y gallai rhai cartrefi fod heb gyflenwad tan ddydd Sul.
Dechreuodd y broblem yn ardal Brychdyn, Sir y Fflint y penwythnos diwethaf, ac er iddi gael ei thrwsio dros dro, mae’r nam wedi dychwelyd.
Ar ôl cwblhau’r gwaith, rhybuddiodd Dŵr Cymru y bydd angen amser i ail-lenwi’r rhwydwaith, sydd dros 500km o hyd, meddai.
Mae hynny’n golygu na fydd rhai yn cael cyflenwadau llawn yn ôl tan ddydd Sul, er bod disgwyl i’r rhan fwyaf o dai gael dŵr ddydd Sadwrn.
Dywedodd y cwmni mai’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio ydy’r Fflint, Treffynnon, Ffynnongroyw, Maes-glas, Llannerch-y-môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd, Queensferry, Shotton, Cei Connah, Garden City, Penarlâg, Mancot a Sandycroft.