Aeth ymlaen i ddweud fod “cymaint o waith wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf” o ran ymchwil canser gan ychwanegu fod ei wraig a’i dad wedi dioddef o’r salwch.
“Cymaint o ymchwil gall ei wneud, gore posib, a’r unig ffordd i ariannu hynny ydy i wneud ymgyrchoedd o’r fath yma.”
Dywedodd fod yr her yn mynd “lot gwell na o’n i’n disgwyl” a’i fod wedi gosod targed o £200.
Er ei fod yn dweud fod ganddo dipyn o’r rhedeg ar ôl, dywedodd ei fod wedi casglu tua £900 hyd yma – “a’r pres yn dal i lifo mewn”.
Ddydd Iau, daeth cannoedd o bobl at ei gilydd i angladd Dewi Pws, gyda degau o bobl yn sefyll ar hyd strydoedd Nefyn ar gyfer taith olaf y diddanwr poblogaidd trwy’r dref lle bu’n byw tan ei farwolaeth.
Roedd yn fwyaf adnabyddus fel actor a chanwr, ond roedd hefyd yn fardd, awdur, cyflwynydd, cyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith.