Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar draws Cymru ddydd Llun.
Mae disgwyl y gall gwyntoedd hyrddio hyd at 45 mya, gan gyrraedd 55 mya mewn mannau arfordirol, medd y Swyddfa Dywydd.
Mae ‘na rybudd y gall y gwyntoedd cryfion effeithio ar amodau gyrru, yn ogystal â chael effaith ar gyflenwadau trydan a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’r rhybudd mewn grym rhwng 06:25 a 22:00 ddydd Llun.