Ddechrau 2024 cyhoeddodd Rhodri Williams na fyddai’n parhau yn y rôl yn dilyn cyfnod cythryblus i’r darlledwr.
Cafodd y cyn-AS Guto Bebb ei benodi dros dro, ond dywedodd yntau nad oedd eisiau’r swydd yn barhaol.
Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS), sy’n gyfrifol am benodiadau cyhoeddus y sianel.
Fe wnaeth gweinidogion gyhoeddi’r ymgeisydd sy’n cael ei ffafrio yn dilyn panel asesu oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o lywodraethau Cymru a’r DU.
Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Lisa Nandy, bod “gweledigaeth [Ms Evans] am ddyfodol S4C yn dangos dealltwriaeth eang o’r cyfryngau a diwylliant yng Nghymru”.
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, bod gan Ms Evans “record wych mewn darlledu a phrofiad helaeth mewn gwasanaeth cyhoeddus”.
Ym mis Ionawr, dechreuodd Geraint Evans yn ei swydd fel prif weithredwr y sianel, yn dilyn ymadawiad Sian Doyle.














































