Allan o’r 12 iach fe ddaeth Rhian o hyd i un ohonyn nhw yn yr ardd.
Fe dderbyniodd gyngor gan filfeddyg i rwymo’r ci hwnnw mewn tywel a defnyddio gwres cynnes o sychwr gwallt i gynyddu tymheredd y ci yn raddol.
Bu’r teulu cyfan yn helpu i ofalu am y ci – gŵr Rhian, Steve, 48, a’u plant, William, 10 a Nia sy’n saith.
Fel teulu, maen nhw wedi penderfynu eu bod am fabwysiadu un o’r cŵn unwaith y maen nhw ychydig yn hŷn.
Dywedodd Rhian fod y milfeddyg wedi dweud wrth ei brawd, Meirion, 51, mai Medi 3 oedd disgwyl i’r gŵn bach gyrraedd – ar y cynhara’.
Ond roedd gan Tilly syniadau eraill mae’n debyg.














































