Wrth geisio adfer y pwer, mae SP Manweb yn cynnig prydau poeth o ganolfan yng Ngwalchmai ar Ynys Môn i gwsmeriaid sydd wedi colli cyflenwad ac yn cydweithio gyda’r Groes Goch i gynnig cymorth.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydd bwyd poeth a llety’n cael ei gynnig ar sail anghenion cwsmeriaid ac y byddan nhw’n gweithio gyda’u partneriaid i gynnig cefnogaeth.
Dywedodd Cyfarwyddwr SP Manweb, Liam O’Sullivan “bod yr amodau’n dal i fod yn heriol iawn”.
“I’r rheiny sydd heb bwer, rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i adfer y cyflenwad pan fo’r amodau’n caniatau i ni wneud hynny.”
Ar un adeg ddydd Sadwrn, roedd dros 100,000 o gartrefi heb drydan.