Yn y cyfamser mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ar gyfer rhannau o’r canolbarth a’r de fore Sadwrn.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 03:00 ac yn dod i ben am 10:00.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai pobl gael eu hanafu wrth lithro ar rew, ac mae ‘na gyngor i gymryd gofal ar ffyrdd, palmentydd a llwybrau seiclo.
Fe fydd y rhybudd mewn grym yn siroedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Caerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful, Mynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Penfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg.














































