Mae adeilad busnes yn Nolgellau wedi cael ei ddifrodi yn sylweddol mewn tân mawr yn oriau mân fore Mercher.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle ar Fordd Pen y Cefn yn y dref am tua 01:30.
Cafodd criwiau o Ddolgellau, Y Bermo a’r Bala eu galw i’r digwyddiad, ond mae swyddogion bellach wedi gadael y safle ar ôl llwyddo i ddiffodd y fflamau.
Does dim adroddiadau fod unrhyw un wedi cael ei anafu ac mae’r Gwasanaeth Tân yn ymchwilio i achos y tân.