Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 29 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar Firbank Avenue yn y ddinas am tua 15:50 ar ddydd Iau, 10 Ebrill.
Bu farw Travis Powell, oedd yn gyrru beic modur, yn y fan a’r lle.
Mae ymchwiliad yr heddlu i’r digwyddiad yn parhau, ac maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o ddefnydd i swyddogion i gysylltu â nhw.