Bu’r A494 ynghau yn ardal Llanuwchllyn yng Ngwynedd am gyfnod dros nos wedi i gar fynd yn sownd, cyn iddi ailagor fore Mercher.
Cafodd dau o bobl eu hachub o gar ar y B5106 i’r gorllewin o Lanrwst yn Sir Conwy fore Mercher hefyd.
Ar y rheilffyrdd mae Trafnidiaeth Cymru’n dweud bod llifogydd yn effeithio ar sawl llinell, ac maen nhw’n annog pobl i wirio cyn teithio.
Mae coeden wedi disgyn ar y trac yn Llanwrtyd ym Mhowys, sy’n golygu bod trafferthion i’r rheiny sy’n ceisio teithio rhwng Abertawe ac Amwythig.
Yng Nglannau Dyfrdwy mae’r rheilffordd ynghau rhwng Shotton yn Sir y Fflint a Chilgwri oherwydd llifogydd.
Mae trenau Trafnidiaeth Cymru rhwng Amwythig a Chaer hefyd wedi’u heffeithio oherwydd llifogydd ger Gobowen.














































