Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates fod “gwaith anhygoel wedi digwydd i gael y twnnel i agor mor sydyn”.
“Mae be fuasai wedi gallu bod yn ddigwyddiad erchyll wedi ei osgoi oherwydd y cynlluniau a’r gwaith paratoi am y fath yma o ddigwyddiad,” meddai.
“Mae’r timau ar draws y gwasanaethau brys, asiantaeth cefnffyrdd, a Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith arbennig i sicrhau bod neb wedi brifo neu waeth, ac mae’r ymdrech sydd wedi mynd i mewn i’w ailagor mor sydyn mewn dim ond tri diwrnod yn anhygoel.”
Ychwanegodd bod cydrannau trydanol yn y twnnel wedi cael eu newid a bod gwaith i sicrhau bod y twnnel yn ddiogel yn strwythurol hefyd wedi digwydd.
“Wnes i yrru drwy’r twnnel yn gynharach heddiw a fuasech chi erioed yn meddwl fod tân mawr wedi digwydd yna,” meddai.